Expression_of_Interest_form_2.png

Ehangu cyfranogiad ac allgymorth cymunedol

Yma yn nhîm allgymorth Prifysgol Caerdydd rydyn ni’n credu y dylai y dylai addysg fod i bawb ac mae ein tîm yn canolbwyntio ar y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch neu sydd wedi profi anfantais neu aflonyddwch addysgol.

Rydym yn cynnig ystod eang o raglenni a digwyddiadau allgymorth sydd wedi'u cynllunio i chwalu'r rhwystrau i addysg uwch ac i'ch cefnogi trwy eich taith addysgol.

CHOFRESTRWCH YMA

Cymryd Rhan

#
Mae ein tîm Trio Sci yn gweithio gyda disgyblion ysgolion cynradd ar draws cymoedd De Cymru, a'i nod yw codi diddordeb y disgyblion yn y pynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) a chynyddu faint ohonynt sy’n dewis eu hastudio yng Nghymru.
Dysgu Mwy
#
Mae ein tîm First Campus yn cynnal rhaglenni fel rhan o'r Bartneriaeth Ymestyn yn Ehangach ar gyfer de-ddwyrain Cymru. Nod y rhaglen yw cynyddu nifer y bobl sydd mewn addysg uwch.
Dysgu Mwy
#
Dewch i wybod rhagor am fyd y gyfraith neu beirianneg drwy gymryd rhan yn ein rhaglenni Llwybrau. Mae ein rhaglenni dwy flynedd yn cynnig y cyfle ichi ddysgu rhagor am sut beth hwyrach yw dechrau gweithio ym maes y gyfraith neu beirianneg yn ogystal â dysgu rhagor am fod yn fyfyriwr yn y brifysgol.
Dysgu Mwy
#
Mae The Brilliant Club yn gweithio gydag ysgolion a phrifysgolion ledled y DU. Diben yr elusen yw cynyddu nifer y disgyblion o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol sy’n symud ymlaen i astudio mewn prifysgolion hynod o ddetholgar.
Dysgu Mwy
#
Nod rhaglen Camu ‘Mlaen yw helpu disgyblion ysgol uwchradd o ardaloedd difreintiedig i nodi opsiynau sy’n addas iddynt, codi cyrhaeddiad ymhlith y disgyblion hynny a rhoi cymorth iddynt er mwyn iddynt barhau â’u haddysg ar ôl iddynt gyrraedd 16 oed.
Dysgu Mwy
#
Mae Ysgolion Haf Sutton Trust yn rhoi’r cyfle i chi gael gwybod sut beth yw bywyd yn y brifysgol.
Dysgu Mwy
#
Mae ein Prosiect Darganfod wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer plant rhwng 14 a 19 oed sydd ar y sbectrwm awtistiaeth.
Dysgu Mwy
#
Prosiect ar y cyd â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yw’r Sioe Deithiol Addysg Uwch. Mae amrywiaeth o gyflwyniadau a gweithdai ysbrydoledig i fyfyrwyr ym mlynyddoedd 9 i 11, yn bennaf mewn ysgolion ledled Cymru.
Dysgu Mwy
support-welsh.png
support-welsh.png

Cefnogaeth

Cymorth ychwanegol i Rieni, Gwarcheidwaid, Athrawon a Chynghorwyr. Darganfyddwch fwy.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×