Ym Mhrifysgol Caerdydd rydyn ni’n cydnabod bod angen atebion ar gyfer llawer o gwestiynau pan fyddwch chi’n ystyried astudio ym myd addysg uwch. Ymhlith y pryderon hyn mae sgiliau astudio, llety a’r agweddau cymdeithasol ar fywyd prifysgol.
Yn sgîl hyn rydyn ni wedi creu rhaglen bontio bwrpasol a fydd yn ateb eich cwestiynau ac yn eich helpu i ddeall yn well o lawer yr hyn i'w ddisgwyl pan fyddwch chi’n mynd i'r brifysgol am y tro cyntaf.
Mae rhaglen Pontio Esblygu yn cynnwys:
Darganfod Caerdydd – bydd hwn ar gael i bob deiliaid cynnig, sef cyfres o weminarau gan ein timau gwasanaethau proffesiynol fydd yn cynnwys Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd, Gwasanaethau Llyfrgell y Brifysgol, cynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr a thechnolegwyr Dysgu Cyfunol / Digidol a llawer mwy. Bydd ein llysgenhadon myfyrwyr presennol yn cyd-gyflwyno’r gweminarau hyn er mwyn rhannu eu profiadau go iawn o fod yn fyfyrwyr gyda chi.
Esblygu – rhaglen rithwir a rhyngweithiol ar gyfer deiliaid cynnig Ehangu Cyfranogiad sydd wedi'i gadarnhau. Dyma raglen hwyliog a rhyngweithiol fydd yn rhoi cymorth pontio manwl i helpu i baratoi myfyrwyr wythnosau cyn iddyn nhw ddechrau ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cyswllt Esblygu – yn y rhaglen benodol hon, bydd deiliaid cynnig Ehangu Cyfranogiad sydd wedi'i gadarnhau yn gweithio'n agos gyda Myfyrwyr Evolve sy’n dywyswyr a gyda’i gilydd byddan nhw’n yn creu cynlluniau gweithredu a fydd yn cael eu hadolygu yn ystod y semester cyntaf i sicrhau bod ateb i bob cwestiwn a bod modd adnabod a datrys unrhyw faterion astudio neu fugeiliol.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now