Lluniwyd ein Prosiect Darganfod yn benodol ar gyfer plant rhwng 14 a 19 oed sydd â chyflyrau ar sbectrwm awtistiaeth.
Mae'r prosiect yn cynnwys sesiynau mentora bob pythefnos sy'n dod â myfyrwyr at ei gilydd ar y campws. Yn ogystal â datblygu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu, maen nhw'n dysgu am y brifysgol mewn awyrgylch cymdeithasol a chartrefol.
Ar ddiwedd y prosiect, bydd ysgol haf breswyl fydd yn para am ddau ddiwrnod, a byddwn ni’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau allweddol er mwyn ffynnu yn y brifysgol, megis byw'n annibynnol, cyllidebu a gweithio gyda phobl eraill.
Rydyn ni hefyd yn cynnal Diwrnod Ymweld â Darganfod, sef diwrnod agored yn benodol ar gyfer pobl ifanc sydd â chyflyrau ar sbectrwm awtistiaeth. Yn ystod y digwyddiad hwn, bydd gan y myfyrwyr y cyfle i gael taith o amgylch y campws a dysgu am y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now