Yn y lle cyntaf, bydd rhaglen 2020 – 2022 yn digwydd yn rhithwir nes ein bod yn gallu cyflwyno rhaglenni wyneb yn wyneb yn ddiogel. Yna, byddwn ni’n defnyddio fformat cyflwyno cymysg pan fydd digwyddiadau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal ochr yn ochr ag adnoddau ar-lein Ymddiriedolaeth Sutton. Rydyn ni wedi addasu ein pecynnau dysgu i weddu i fformat rhithwir, felly gallwch chi barhau i edrych ymlaen at gwrdd â myfyrwyr o bob rhan o'r DU, gan rwydweithio â gweithwyr proffesiynol a datblygu eich sgiliau.
Mae gan bob prifysgol ffordd unigryw o gyflwyno'r rhaglen. Yn ystod y ddwy flynedd academaidd, bydd pob myfyriwr Llwybrau at y Gyfraith yn cael defnyddio adnoddau ar-lein Ymddiriedolaeth Sutton ac yn cael y cyfle i wneud y canlynol:
I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais, gan gynnwys meini prawf cymhwystra’r rhaglen, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Sutton
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now